C.P.D. Wrecsam

C.P.D. Wrecsam
Enghraifft o'r canlynolclwb pêl-droed Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1864 Edit this on Wikidata
LleoliadWrecsam Edit this on Wikidata
PerchennogRyan Reynolds, Rob McElhenney Edit this on Wikidata
PencadlysWrecsam Edit this on Wikidata
Enw brodorolWrexham A.F.C. Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.wrexhamafc.co.uk/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
C.P.D. Wrecsam
Enw llawn Clwb Pêl-droed Wrecsam
Llysenw(au) Y Dreigiau
Sefydlwyd 1864 (1864)[1]
Maes Y Cae Ras
Cadeirydd Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam
Rheolwr Baner Lloegr Phil Parkinson
Cynghrair Adran Gyntaf

Mae Clwb Pêl-droed Wrecsam yn glwb pêl-droed yng ngogledd-ddwyrain Cymru sy'n chwarae yn yr Adran Gyntaf ac a sefydlwyd yn 1864.[2] Cae Ras yw stadiwm a maes y Clwb, maes sydd wedi cynnal gemau rhyngwladol Cymru (pêl-droed a rygbi'r undeb) yn ogystal â bod yn gartref i'r 'Dreigiau'; yn hanesyddol adnabyddir y clwb fel y Robins. Dyma stadiwm rhyngwladol hynaf y byd.[3]

Yn 2011, yn dilyn trafferthion ariannol, prynwyd Y Cae Ras gan Brifysgol Glyndŵr; nid yw'r cytundeb yma'n cynnwys y clwb pel­-droed na'r clwb rygbi'r cynghrair, ond mae'n caniatáu iddyn nhw barháu i ddefnyddio'r cyfleusterau. "Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam" yw perchnogion y clwb.[4][5] Erbyn Mai 2015, roedd gan y Clwb 4,129 o aelodau (oedolion a chyd-berchnogion).[6]

Mae'r record am y nifer mwyaf o gefnogwyr yn mynd nôl i 1957 pan chwaraewyd yn erbyn Manchester United F.C. gyda 36,445 o gefnogwyr yn gwylio.[7]

Mae gan y clwb nifer o ymrysonau â chlybiau Seisnig, gan gynnwys Dinas Caer a'r Amwythig. Ymhlith y gemau mwyaf cofiadwy y mae'r gêm yn erbyn Arsenal F.C. yn 1992, a oedd ar frig Cwpan yr FA ar y pryd. Llwyddodd y Clwb hefyd i drechu FC Porto yn 1984 yng Nghwpan Ewrop.

  1. Randall, Liam. "Wrexham FC Fans To Vote To Accept 1864 Date Change". Wrexham.com. Cyrchwyd 28 Mehefin 2012.
  2. Randall, Liam. "Wrexham FC Fans To Vote To Accept 1864 Date Change". Wrexham.com. Cyrchwyd 14 Hydref 2014.
  3. Bagnall, Steve. "Guinness cheers Racecourse with official record". Daily Post Wales. Cyrchwyd 18 Mehefin 2008.
  4. wrexhamafc.co.uk; Archifwyd 2017-05-30 yn y Peiriant Wayback. adalwyd Ionawr 2017.
  5. Randall, Liam. "Done Deal – WST buy WFC". Wrexham.com. Cyrchwyd 26 Medi 2011.
  6. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-11-07. Cyrchwyd 2017-01-17.
  7. http://www.11v11.com/matches/wrexham-v-manchester-united-26-january-1957-210986/

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search